
Rhif y ddeiseb: P-06-1558
Teitl y ddeiseb: Symleiddio a safoni’r broses ar gyfer trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu yng Nghymru
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd, mae’n anodd iawn trefnu apwyntiadau i weld meddyg teulu mewn meddygfeydd lleol. Mae hyn yn achosi straen diangen i gleifion ac mae hefyd yn achosi straen diangen i adrannau brys yn ein hysbytai.
Dylai pobl allu ffonio eu meddygfa ar unrhyw adeg (o fewn oriau agor) i drefnu apwyntiad gyda meddyg teulu. Nid yw pobl bob amser ar gael ar yr amseroedd a bennir gan feddygfeydd ac mae hyn yn atal pobl sy’n gweithio rhag cael apwyntiadau.
Un enghraifft yw meddygfeydd sy’n gofyn i bobl ffonio’r feddygfa am 10:00am er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer yr un diwrnod yr wythnos ganlynol. Nid yw’r diffyg hyblygrwydd hwn yn gweithio i bobl mewn swyddi penodol nad ydynt yn gallu aros ar y ffôn am 30 munud yn y gobaith o gael apwyntiad. Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn gweithio i bobl a hoffai drefnu apwyntiad cyffredinol ar gyfer y dyfodol gan eu bod yn cael eu cyfyngu i allu gwneud apwyntiadau ar gyfer yr wythnos ganlynol yn unig. Mae nam clir ar y prosesau hyn sy’n anhyblyg ac yn gweithio yn erbyn aelodau penodol o’r cyhoedd.
The text provided above is submitted by the petitioner. The petitions team make every effort to ensure it preserves their authentic voice. This text has not been verified for accuracy, or errors, and may contain unverified opinions or assertions.
Mae'r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.
Mae'r rhan fwyaf o feddygon teulu yng Nghymru yn gweithredu fel contractwyr annibynnol o dan y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.
Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd newidiadau i'r contract meddygon teulu gyda'r nod o wella mynediad at apwyntiadau, gan gynnwys dod â'r "dagfa 8am" i ben. Bwriad y newidiadau, a gefnogwyd gan fuddsoddiad ychwanegol o £12 miliwn, oedd i gael gwared ar yr arfer o ryddhau pob apwyntiad am 8am ac i sicrhau bod cleifion yn cael eu blaenoriaethu'n briodol ac yn derbyn apwyntiad sy'n addas ar gyfer eu hanghenion clinigol.
Daeth yr ymrwymiad newydd i gael mynediad i feddygon teulu i rym ar 1 Ebrill 2022. Mewn canllawiau gan Lywodraeth Cymru mynegwyd y dylai meddygaethau gynnig cymysgedd o apwyntiadau yn cynnwys rhai o bell, rhai wyneb yn wyneb, apwyntiadau brys, rhai yr un diwrnod a rhai y gellir eu harchebu ymlaen llaw, a dywedwyd y dylai meddygaethau fabwysiadu dull wedi’i gynllunio yn well o ran amserlennu. Pwysleisiodd nad oedd rhyddhau pob apwyntiad am 8am yn dderbyniol mwyach.
Ym mis Mawrth 2023, cydnabu'r Gweinidog fod y newidiadau'n cynrychioli newid sylweddol i lawer o feddygfeydd, a nodwyd y byddent yn cymryd amser i'w hymgorffori'n llawn, a bod llawer o gleifion yn dal i gael trafferth i sicrhau apwyntiadau meddyg yn amserol.
Yn fwy diweddar, ar ôl dod a thrafodaethau ar gyfer contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2025-26 i ben yn llwyddiannus, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS y byddai camau pellach yn cael eu cymryd i wella’r safonau mynediad. Bydd gweithgor pwrpasol yn adolygu ac yn gwella'r safonau hyn, a disgwylir i welliannau ddod yn weithredol o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Yn ei hymateb i'r Pwyllgor Deisebau (5 Ionawr 2026), dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwella cydymffurfiaeth ynghylch y dagfa 8am ac apwyntiadau y gellir eu harchebu ymlaen llaw, a bod canllawiau i feddygfeydd wedi'u diweddaru. Disgwylir i fyrddau iechyd wirio bod y safonau hyn yn cael eu cynnal fel rhan o’r broses arferol o reoli contractau meddygon teulu.
Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod Ap GIG Cymru bellach yn cynnig ffordd ddigidol i bobl weld a rheoli rhai apwyntiadau gyda meddygon teulu, ac mae diweddariadau pellach yn yr arfaeth.
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gorffen y gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i ddyfodol meddygaeth deulu yng Nghymru. Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth hefyd gyda Llais, y sefydliad sy’n rhoi llais i gleifion, i ddeall profiadau pobl o gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn well. Disgwylir i adroddiad y Pwyllgor gael ei gyhoeddi cyn diwedd tymor y Senedd bresennol.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.